Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
14 Rhagfyr 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12520
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn mewn fformat rhithwir, gydag Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Am 13.42, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 10 munud.
Am 14.06, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 2 funud.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.49
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Llunio Dyfodol Cymru – Pennu cerrig milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol
Dechreuodd yr eitem am 15.02
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)
Dechreuodd yr eitem am 15.45
5 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cefnogi’r bwriad i greu Banc Cymunedol ar gyfer Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.05
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19
Dechreuodd yr eitem am 16.46
7 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau
Dechreuodd yr eitem am 17.26
8 Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Dechreuodd yr eitem am 18.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7864 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2021.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
16 |
58 |
Derbyniwyd y cynnig.
Derbyniwyd cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 9 a 10 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
9 Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021
Dechreuodd yr eitem am 18.50
NDM7865 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2021.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021
NDM7866 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2021.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
11 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021
Dechreuodd yr eitem am 18.57
NDM7863 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Rhagfyr 2021.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
12 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
Dechreuodd yr eitem am 19.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7867 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mai a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd a 3 Rhagfyr 2021, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
Dogfennau Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Memorandwm Rhif 2)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
1 |
12 |
58 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.32 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
13 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 19.37
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 19.41
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 15 Rhagfyr 2021